SL(5)464 – Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) 2019

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau 2019”) i:

·         cywiro croesgyfeiriad anghywir,

·         gwneud mân ddiwygiadau i'r testun Cymraeg, a

·         sicrhau cyfwerthedd rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg.

Mae'r diwygiadau hyn yn deillio o adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, dyddiedig 16 Hydref 2019, ar Reoliadau 2019. Nododd yr adroddiad nifer o bwyntiau technegol.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad a chytunodd i wneud nifer o gywiriadau i Reoliadau 2019, i adlewyrchu'r pwyntiau a nodwyd.  Gwneir hyn trwy gyfrwng y Rheoliadau hyn.

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau technegol i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Mae'r rheol 21 diwrnod o dan y Ddeddf Offerynnau Statudol 1946 (a ymgorfforwyd yn Atodlen 10 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) yn darparu y dylid gosod offerynnau 21 diwrnod cyn iddynt ddod i rym. Mae hyn yn galluogi Aelodau i geisio diddymu offerynnau o'r fath cyn iddynt gael effaith, am y gall achosi dryswch os diddymir deddfwriaeth ar ôl ei roi ar waith. Fodd bynnag, yn yr achos hwn, mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod yr amgylchiadau'n cyfiawnhau torri'r rheol honno. Mae'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, fel sy'n ofynnol o dan adran 11A o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946, wedi hysbysu'r Llywydd am yr achos o dorri’r rheol fel y gellir dwyn y mater i sylw'r Aelodau.

Mae'r Memorandwm Esboniadol (“Memorandwm” - Saesneg yn unig) yn nodi'r rhesymau dros dorri'r rheol 21 diwrnod:

“These Regulations are made under section 2(2) of the European Communities Act 1972, meaning there is some urgency in making them in advance of exit day, when the power will no longer be available. One of the amendments made by the 2019 Regulations relates to the Genetically Modified Organisms (Deliberate Release and Transboundary Movement) (Miscellaneous Amendments) (Wales) (EU Exit) Regulations 2019 (S.I. 2019/379 (W. 94)) (EU Exit Regulations 2019).  The Genetically Modified Organisms (Deliberate Release and Transboundary Movement) (Miscellaneous Amendments) (Wales) (EU Exit) (No.2) Regulations 2019 (EU Exit No. 2 Amendment Regulations 2019) are currently being drafted.  The EU Exit No. 2 Amendment Regulations 2019 will also amend the EU Exit Regulations 2019 and it is anticipated that they will be laid on 28 October, with a coming of force date of (for some provisions) immediately before exit day, and (for other provisions) exit day.  Given that these Regulations and the EU Exit No. 2 Amendment Regulations 2019 both amend the EU Exit Regulations 2019, for clarity – on both the statute book and for the ease of understanding for lay readers – it is considered appropriate that the amendments made by these Regulations come into force first.  The 2019 Regulations come into force on 30 October, and these Regulations need to come into force before that date.  The latest day on which they can come into force is 29 October.  In order to achieve this it is necessary for the 21 day rule to be breached.”

Gosodwyd y Rheoliadau hyn a'r Memorandwm ar 29 Hydref 2019, ac mae'r llythyr at y Llywydd wedi'i ddyddio 28 Hydref 2019.

Ar 30 Hydref 2019 daeth Rheoliadau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (Diwrnod Ymadael) (Diwygio) (Rhif 3) i rym gan ddiwygio’r diffiniad o “diwrnod ymadael”. Bellach, y diffiniad o’r diwrnod ymadael yw 31 Ionawr 2020. Oherwydd y diwygiad hwnnw, nid yw'r ddarpariaeth yn Rheoliadau Ymadael â’r UE 2019, y mae Rheoliadau 2019 yn eu diwygio, mewn grym eto.

Gosodwyd Rheoliadau Diwygio Ymadael â’r UE Rhif 2 2019 ar 5 Tachwedd 2019. Daeth Rheoliadau 2019 i rym ar 30 Hydref.

Y goblygiadau yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2019 sy’n gweithredu rhwymedigaethau’r UE mewn perthynas â gollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol, a bydd Rheoliadau 2019 yn rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir ar ôl y diwrnod ymadael.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

6 Tachwedd 2019